Cwricwlwm i Gymru

Sut mae’r Her Bumpunt yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru

 

Ymwneud â’r Her Bumpunt

Mae’r Her Bumpunt yn rhaglen fenter genedlaethol am ddim sy’n rhoi ffordd ddifyr a rhyngweithiol iawn i bobl ifanc 5-11 oed ddatblygu sgiliau menter ac addysg ariannol craidd, gan gynnwys datrys problemau, hyder, creadigrwydd a gwaith tîm.

Mae gweithgareddau Pumpunt yn cael eu cynnal gan ysgolion cynradd a’u harwain gan yr athro/athrawes gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ar y platfform Pumpunt.

Mae Pumpunt yn gyfle gwych i helpu’ch disgyblion i ddatblygu, defnyddio a chymhwyso amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth mewn cyd-destun bywyd go iawn, gan gynnwys:

  • Dysgu am fenter a rheoli arian
  • Sgiliau mathemategol allweddol, gan gynnwys datrys problemau
  • Sgiliau gallu ariannol y gallant eu cymhwyso i’w bywydau personol a gwaith
  • Sgiliau cyfathrebu a fydd yn gwella eu hyder a’u hunan-barch
  • Sgiliau creadigol ac ymarferol, gan gynnwys sgiliau digidol
  • Y gallu i ffurfio perthnasoedd ag ystod eang o gyfoedion ac oedolion eraill

Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru1 yn ceisio paratoi plant i ffynnu mewn dyfodol lle mae sgiliau digidol, y gallu i addasu a chreadigrwydd yn hollbwysig, ac sydd wedi’i wreiddio mewn gwerthoedd a diwylliant Cymru.

Bwriedir i’r pedwar diben sydd wrth wraidd y Cwricwlwm newydd i Gymru ffurfio’r sail i bob cwricwlwm ar gyfer pob dysgwr. Gan alluogi addysgwyr i ganolbwyntio ar ddatblygu dull sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, gellir eu defnyddio i ddarparu cyfleoedd dysgu diddorol a chyd-destunol ac maen nhw wedi’u seilio ar y syniad bod pobl ifanc yn rhan o’r daith gynllunio honno.

Dyna beth yw nod yr Her Bumpunt; galluogi pobl ifanc i ddatblygu ystod eang o sgiliau gan ddefnyddio cyd-destunau bywyd go iawn a luniwyd ganddyn nhw.

Trwy’r Her Bumpunt, bydd disgyblion yn gallu datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, yn ogystal â gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith. Bydd hyn i gyd yn eu helpu i wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.

1. Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes

Bydd ymateb i’r Her Bumpunt yn defnyddio eu holl sgiliau ac yn eu hannog i fod yn uchelgeisiol a meddwl yn greadigol.

2. Cyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith

Bydd yr Her Bumpunt yn rhoi cyfle iddynt fod yn greadigol a chyfrannu at dîm i gyflawni tasg.

3. Dinasyddion moesegol, gwybodus, sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd

Meddwl am sut gall eu syniadau busnes fod yn gynaliadwy a chyfrannu at ddaioni cymdeithasol.

4. Unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Bydd yr Her Bumpunt yn eu galluogi i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu trwy ddelio ag ystod o bobl y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol.

Yn fwy cyffredinol, rydym yn credu bod yr Her Bumpunt yn cyfrannu at ddatblygiad disgyblion trwy:

  1. Ddarparu sylfaen i ddisgyblion ddatblygu sgiliau allweddol ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith, e.e. y gallu i wrando ar gyfoedion a chyfaddawdu, gweithio mewn tîm a deall sgiliau a rolau aelodau’r tîm, y gallu i addasu, creadigrwydd, a sut i reoli arian a datblygu datrysiadau i broblemau.

  2. Caniatáu cydraddoldeb ar draws pob gallu er mwyn i ddisgyblion godi eu dyheadau a datblygu agweddau cadarnhaol at waith pan fyddant yn ifanc.

  3. Deall pwysigrwydd cymuned trwy ymgysylltu, a deall cysyniad entrepreneuriaeth gymdeithasol trwy ddatblygu gwasanaethau neu gynnyrch sy’n helpu’r gymuned leol neu ehangach.

  4. Ysbrydoli athrawon ynglŷn â sut i gymhwyso menter ac addysg ariannol trwy ddarparu dull dysgu mwy cynaliadwy i ddisgyblion.

  5. Gallai’r Her Bumpunt weithredu fel ‘sbardun’ hefyd trwy ddarparu llwyfan ar gyfer dysgu dilynol ar ôl i’r her ddod i ben.2

 

Ffyrdd eraill y mae’r Her Bumpunt yn helpu i gyflawni’r gofynion newydd yng Nghymru

Rôl addysg fenter mewn datblygiad disgyblion yng Nghymru

Mae’r Her Bumpunt yn ceisio datblygu menter a gallu ariannol ar yr un pryd â datblygu dealltwriaeth economaidd a busnes.

Nod addysg fenter yw cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu ystod eang o sgiliau, fel arweinyddiaeth ac entrepreneuriaeth, gwaith tîm, cyfathrebu, a gwneud penderfyniadau; sgiliau trosglwyddadwy sy’n allweddol i ddatblygu pobl ifanc hyderus a mentrus sy’n alluog yn ariannol. Mae addysg ariannol yr un mor berthnasol wrth ddatblygu ffordd fentrus o feddwl.

Mae angen i bobl ifanc gael addysg ariannol sy’n eu helpu i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau sy’n ofynnol i reoli eu harian, gwneud penderfyniadau ariannol gwybodus a chyflawni eu nodau. Trwy ddysgu am arian pan fyddant yn ifanc, gallent drawsnewid eu bywydau trwy agor cyfleoedd nad oeddent wedi’u hystyried, o bosibl. 3

Mae ymchwil wedi dangos bod addysgu plant am fenter ac addysg ariannol pan fyddant yn ifanc yn caniatáu i ddisgyblion adeiladu sylfaen gref ar gyfer dysgu pellach. 4 5

Mae Young Enterprise yn gwybod ei bod yn hollbwysig ymgysylltu â phlant oed ysgol gynradd yn ystod y blynyddoedd ffurfiannol hynny pan fyddant yn datblygu eu ffordd o feddwl am arian, menter a llwybrau gyrfaol posibl. Rydym yn credu y bydd rhoi cyfle iddynt danio eu diddordeb mentrus trwy raglenni fel Pumpunt yn cynyddu ymwybyddiaeth o lwybrau gyrfaol posibl ac yn rhoi’r hyder a’r wybodaeth iddynt wneud penderfyniadau mwy gwybodus am eu dyfodol. 3

 

Ymgysylltu â’r Gymuned

Anogir disgyblion i ymgysylltu â’u hysgol a’u cymuned leol drwy gydol yr Her Bumpunt trwy ddatblygu cynnyrch/gwasanaeth a allai helpu eu hysgol a/neu eu cymunedau lleol. Bydd hyn yn eu helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ac ariannol newydd trwy gyfle dysgu ymarferol.

Trwy ymgysylltu â’r gymuned, mae’r Her Bumpunt yn rhoi cyfle ychwanegol i ddysgu am entrepreneuriaeth gymdeithasol a’r effaith gadarnhaol y gallant ei chael ar bobl eraill yn eu cymuned yn ogystal â’r amgylchedd ehangach.

Mae’r Her Bumpunt yn darparu cyd-destunau a phosibiliadau dysgu byd go iawn sy’n rhoi cyfle i gynnwys nifer o agweddau ar y cwricwlwm a addysgir er mwyn darparu dysgu sy’n berthnasol i’r cwricwlwm.

Perthnasedd yr Her Bumpunt i’r Cwricwlwm i Gymru

Gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith1 1

Mae addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ym myd gwaith sy’n esblygu drwy’r amser, ac mae’n helpu disgyblion i wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.

 

O 3 oed, dylai addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith ysbrydoli dysgwyr i:
ddatblygu dealltwriaeth o ddiben gwaith mewn bywyd, iddyn nhw eu hunain ac i’r gymdeithas gyfan
dod yn gynyddol ymwybodol o’r ystod o gyfleoedd sydd ar gael iddynt, gan ehangu eu gorwelion
datblygu’r agweddau a’r ymddygiadau sy’n ofynnol i oresgyn rhwystrau rhag cyflogadwyedd, rheoli gyrfa a dysgu gydol oes
sylweddoli’r ystod gynyddol o gyfleoedd yn y gweithle lle mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn bwysig
archwilio cyfleoedd trwy amrywiaeth o brofiadau ystyrlon mewn dysgu, gwaith ac entrepreneuriaeth
datblygu gwydnwch a’r gallu i addasu wrth ymateb i’r heriau, y dewisiadau a’r cyfrifoldebau mewn gwaith a bywyd

 

Mae’r meysydd a amlygir isod yn dangos pwysigrwydd cyfranwyr a dylanwadwyr allweddol ar benderfyniadau gyrfaol pobl ifanc a sut dylai ysgolion a lleoliadau ystyried y rhain wrth ddylunio addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith i gefnogi’r pedwar diben yn y cwricwlwm.

Sgiliau sy’n rhan annatod o’r pedwar diben

Mae’r pedwar diben wedi’u seilio hefyd ar sgiliau annatod y dylid eu datblygu o fewn ystod eang o ddysgu ac addysgu.

Yn ganolog i’r sgiliau hyn, mae’n bwysig bod dysgwyr yn adnabod, defnyddio a chreu gwahanol fathau o werth; mewn ystod o gyd-destunau, gan gynnwys gwerth ariannol, diwylliannol, cymdeithasol a dysgu.

Creadigrwydd ac arloesedd
Dylid rhoi lle i ddysgwyr fod yn chwilfrydig ac yn holgar, ac i gynhyrchu llawer o syniadau. Dylent allu adnabod cyfleoedd a chyfleu eu strategaethau.
Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
Dylid cynorthwyo dysgwyr i ofyn cwestiynau ystyrlon ac i werthuso gwybodaeth, tystiolaeth a sefyllfaoedd. Dylent hefyd allu cynnig datrysiadau sy’n cynhyrchu gwahanol fathau o werth.
Effeithiolrwydd personol
Dylai dysgwyr ddatblygu ymwybyddiaeth a deallusrwydd emosiynol, gan ddod yn hyderus ac yn annibynnol. Dylent allu gwerthuso eu dysgu a’u camgymeriadau, gan amlygu meysydd i’w datblygu. Dylent ddod yn gyfrifol ac yn ddibynadwy.
Cynllunio a threfnu
Pan fo’n briodol yn ddatblygiadol, dylai dysgwyr allu gosod nodau, gwneud penderfyniadau a monitro canlyniadau dros dro. Dylent allu myfyrio ac addasu, yn ogystal â rheoli amser, pobl ac adnoddau.

 

Wrth wraidd datblygu’r sgiliau hyn, mae pethau allweddol y gofynnir i athrawon eu cadw mewn cof, sydd i gyd yn cyd-fynd â’r sgiliau mentrus y bydd yr Her Bumpunt yn dechrau eu datblygu mewn pobl ifanc.

Er enghraifft, trwy’r her hon, gellir annog eich disgyblion i:
Ddatblygu gwerthfawrogiad o ddatblygu cynaliadwy a’r heriau sy’n wynebu’r ddynoliaeth
Datblygu ymwybyddiaeth o ddatblygiadau technolegol sy’n dod i’r amlwg
Cael eu cefnogi a’u herio fel eu bod yn barod i fodloni gofynion gweithio mewn sefyllfaoedd ansicr yn hyderus, wrth i gyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang sy’n newid arwain at heriau newydd a chyfleoedd newydd ar gyfer llwyddiant
Cael cynnig lle i gynhyrchu syniadau creadigol a gwerthuso dewisiadau amgen yn feirniadol: mewn byd sy’n newid drwy’r amser, bydd hyblygrwydd a’r gallu i ddatblygu mwy o syniadau yn galluogi dysgwyr i ystyried ystod ehangach o ddatrysiadau amgen pan fydd pethau’n newid
Cynyddu eu gwydnwch a datblygu strategaethau a fydd yn eu helpu i reoli eu lles: dylent fod yn dod ar draws profiadau lle y gallant ymateb yn gadarnhaol i her, ansicrwydd neu fethiant
Dysgu sut i weithio’n effeithiol gydag eraill, gan werthfawrogi’r cyfraniadau gwahanol y maen nhw ac eraill yn eu gwneud: dylent hefyd ddechrau cydnabod cyfyngiadau eu gwaith eu hunain a gwaith pobl eraill wrth iddynt ddatblygu dealltwriaeth o sut mae pobl wahanol yn cyflawni rolau gwahanol mewn tîm.

 

Sgiliau trawsgwricwlaidd

Mae sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu cael at wybodaeth ar draws ehangder y cwricwlwm ysgol a’r cyfoeth o gyfleoedd y mae’n eu cynnig, gan roi’r sgiliau gydol oes i ddisgyblion allu deall y pedwar diben.

Gall y sgiliau hyn gael eu trosglwyddo i fyd gwaith sy’n newid drwy’r amser, gan eu galluogi i addasu a ffynnu yn yr amgylcheddau cyflym.

Mae’n rhaid rhoi cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i ddysgwyr:
Ddatblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
Gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn
Bod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i’w helpu i weithredu a chyfathrebu’n effeithiol a gwneud synnwyr o’r byd

 

Cyfeiriadau

  • 1. Cwricwlwm i Gymru 2021
  • 2. Adroddiad Gwerthuso Her Bumpunt Young Enterprise 2018
  • 3. Adroddiad cryno Enterprising Mindsets: 'Make it real and make it mean something'
  • 4. Yr Arglwydd Young (2014) Adroddiad Menter i Bawb
  • 5. Grŵp Seneddol Hollbleidiol (APPG) (2016) Adroddiad y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Addysg Ariannol ar gyfer Pobl Ifanc: Financial Education in Schools: Two Years On – Job Done?