Yr Her

Sut mae´n gweithio

Yn ystod pedair wythnos, bydd y plant yn defnyddio buddsoddiad o £5 i gychwyn eu syniadau busnes.

Mae'n rhaglen ddifyr a rhyngweithiol iawn i blant 5-11 oed sy'n cyflwyno addysg ariannol a menter ac yn gwella sgiliau allweddol, gan gynnwys creadigrwydd, datrys problemau, gwaith tîm a hyder.

 

Cynllun yr Her Pedair Wythnos 

 

Amlinellir pedair wythnos yr her isod:

1 - Dyma Bumpunt!

Bydd y plant yn cydweithio i benderfynu pa gynnyrch neu wasanaeth i fuddsoddi eu pumpunt ynddo.

2 - Dechrau arni

Bydd angen i'r timau ddod o hyd i ddeunyddiau neu gynhyrchion, paratoi cyflwyniadau gwerthu ar gyfer wythnos tri, a chynllunio digwyddiadau gwerthu.

 

3 - Dal ati

Yn ystod trydedd wythnos yr Her, bydd y plant yn cael eu cynnych neu wasanaeth yn barod, yn paratoi ar gyfer eu digwyddiad gwerthu a chymryd rhan yn y gystadleuaeth cyflwyno gwerthiant.

 

4 - Talu'n ôl a chadw'r elw

Ar ddiwedd yr Her, bydd y plant yn ad-dalu'r buddsoddiad o £5 yn ogystal â chyfraniad gwaddol o 50c ac yn penderfynu sut i wario eu helw neu ei gyfrannu fel rhodd.

 

Cyflwynwch yr Her Bumpunt ac archwiliwch entrepreneuriaeth gan ddefnyddio'r sleidiau PowerPoint Cyflwyniad i'r Her Bumpunt.

 

SaesnegCymraeg

 


Cystadlaethau Wythnosol

   

Ar ddiwedd Wythnosau 1 a 3, bydd y plant yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth her:

Wythnos 1 - Dylunio Logo

Byddwn yn chwilio am logos sy'n gallu creu effaith a chyfleu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth i gwsmeriaid.

Wythnos 3 - Poster Gwerthu

Creu poster yn arddangos eich ymchwil marchnad a phwyntiau gwerthu unigryw.

Cymryd rhan mewn Cystadleuaeth

 

Bydd yr holl gystadlaethau'n agor pan fydd yr her yn dechrau, a gellir lanlwytho ceisiadau pryd bynnag y byddant yn barod. Gallwch wirio dyddiadau cau'r cystadlaethau ar y dudalen Dyddiadau Allweddol.

Gellir cyflwyno pob cais mewn amrywiaeth o fformatau ffeiliau - bydd manylion llawn, cyfarwyddiadau lanlwytho a meini prawf barnu ar gael pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer yr her.

 

Y Gystadleuaeth Genedlaethol

 

Bydd Cystadleuaeth Genedlaethol yr Her Bumpunt yn cael ei chynnal ar ddiwedd y rhaglen pedair wythnos.

Mae 4 categori ar gyfer gwobrau: 

 

  1. Gorau o ran Cynaliadwyedd
  2. Her Bumpunt er Daioni
  3.  Busnes Gorau yn Gyffredinol
  4. Unigolyn Mwyaf Ysbrydoledig
  5. Busnes Gorau Cymru

 

Rhennir pob categori yn ddwy wobr: naill ai yn ôl grwpiau oedran 5-8 oed a 9-11 oed neu enillydd ac ail orau.

Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o arloesedd, creadigrwydd a datrys problemau ar gyfer yr holl wobrau ochr yn ochr â straeon am waith tîm a datblygiad personol.

 

Edrychwch ar Arddangosfa 2024 yr Her Bumpunt i gael ysbrydoliaeth
 

Gwyliwch y Dosbarth Meistr Rhagarweiniol i baratoi ar gyfer Her Bumpunt 2024


 

Dysgwch fwy am yr Her Bumpunt yn ein llyfryn.

 

LLYFRYN YR HER BUMPUNT

 

Gwiriwch y Telerau ac Amodau am arweiniad ar gynhyrchion a gwasanaethau y gellir eu masnachu o dan yswiriant Young Enterprise. Mae´n rhaid i sefydliadau sicrhau bod ganddynt yswiriant priodol ar waith ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau nad ydynt yn dod o dan bolisi yswiriant Young Enterprise.

 

Chwilio am rywbeth y gallwch chi a´ch plant ei wneud cyn i´r Her ddechrau?

Beth am ystyried Yr Her Bumpunt DIY sydd bellach ar gael ar hyd y flwyddyn. Mae'r adnoddau hyn yn ffordd hawdd i blant gymryd eu camau cyntaf mewn addysg ariannol a menter ac yn eu paratoi ar gyfer lansio’r Her Bumpunt ym mis Mehefin.