• Her Bumpunt

    Heriwch eich plant i ddechrau busnes gyda £5 yn unig mewn pedair wythnos!

    Mae'r Her Bumpunt, gan Young Enterprise, yn rhaglen fenter genedlaethol am ddim sy'n rhoi ffordd ddifyr a rhyngweithiol iawn i blant 5-11 oed ddatblygu sgiliau addysg ariannol a menter craidd, gan gynnwys datrys problemau, hyder, creadigrwydd a gwaith tîm.

    Bydd her eleni yn cael ei chynnal rhwng 3 a 28 Mehefin 2024.

    Cofrestrwch am ddim heddiw!

Her Bumpunt

Mae'r her yn cynnig cyflwyniad rhagorol i fenter a byd gwaith trwy bedair wythnos ryngweithiol iawn wrth iddynt ymchwilio i'w busnes eu hunain, ei greu, ei gynllunio a'i gynnal gyda buddsoddiad o £5. Bydd cyfle i'r plant gymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau ar hyd y ffordd, ennill gwobrau ac ymddangos yn ein Harddangosfa Bumpunt.

Gweld Mwy

Yr Her Bumpunt DIY

Gellir cyflwyno'r prosiect Her Bumpunt DIY yn hyblyg, ar draws y flwyddyn academaidd neu gartref, wrth iddynt ddychmygu pa fusnes y gallant ei greu gyda £5. Mae'n ffordd ddifyr o gyflwyno plant i addysg fenter a'u paratoi ar gyfer her y flwyddyn nesaf.

Gweld Mwy
Cefnogir yr Her Bumpunt gan Gymdeithas Adeiladu'r Principality i gynnig cyfle cyfartal i blant ledled Cymru a Lloegr gael addysg ariannol a dysgu seiliedig ar yrfa pan fyddant yn ifanc.